#100 Nos da

23.55 (gan bedwar bardd blinedig)

pawb

Pedwar pen
wedi bwrw’u sen
a’r her bron ar ben,

a phedair ceg,
mwy na phedair rheg
(wel – chwara’ teg!)

pedair bron
wedi cael braw,
a bore ddaw

a’r nos a’i ‘na’,
mor gyflym yr â,
cawn gau y llen,

a phedair llaw
fel cawod law
yn dweud ‘nos da’.

# 98 Ysgol Ffarmers

Jyst mewn pryd i ti Elin Pen Bont!
Sori, roedd bach o hast arna i erbyn hyn.
40 awr heb gwsg felly dim ond rhestr o atgofion fydd dim ond yn berthnasol i ti a fi

Tripiau lu i Denmark Farm
neu Oakwood neu Bensgynor.
Gwneud bwgan brain o Scary Spice,
papur bro ar ddiwedd tymor.

Chwarae hoci’n y cantîn.
Dydd Mawrth oedd diwrnod nofio.
Chwarae rownders yn y cae
ond neb yn fodlon fieldo.

Sioeau Nadolig rif y gwlith,
Christingle yn yr Eglwys,
ras ŵy Pasg a diolchgarwch
a phancos cyn y grawys.

Tyfu rhes o flodau haul,
y pysgod aur yn drewi,
a gwisgo carthen bigog, sgert,
a het ar ddydd Gŵyl Ddewi.

#94 Sais o Lŷn

23.16

(There but for the grace of God go I)

Pe na bawn i yn fi fy hun
mi laswn fod yn Sais o Lŷn;
bu Mam a’n Nhad a hithau fy Nain
yn cyfeillachu’n yr iaith fain.

Cael a chael oedd hi mae’n rhaid
i Mam a Nhad wneud clamp o naid,
a weithiau holaf fi fy hun;
“pwy fyddai o, y Sais o Lŷn?”

#93 Aros distaw

23.14

Mae Casia’n ei gwibio drwy’r ddinas,
sillafau’n dod fesul dryll,
ninnau’n ysu am dorri’r tawelwch,
am gael taflu’n geiriau i’r gwyll,
ond na, y mae ‘na beryg
na chlywn ni’r lleill mohoni,
oni arhoswn ennyd i wrando’r
nos yn cronni…

#92 Catrin

23.07

Pob dymuniad da i ti Catrin oddi wrth dy holl ddosbarthiadau yma yng Ngaerdydd.

Beth a wnawn ni nawr heb Catrin?
Hi yw’n guru yn y gegin.
Ni fydd hadau ar ein bwydlen
Dim ond treiffl fesul powlen!

Beth a wnawn ni nawr heb Catrin?
Mae hi’n heini anghyffredin.
Ni fydd lunges, ni fydd plancio
heb ei llygaid craff hi’n gwylio.

Beth a wnawn ni nawr heb Catrin,
heb ei hwyliau da a’i chwerthin?
Mae ganddi hi amynedd sant,
jyst y peth i fagu plant!

#90 Irac (Sgript i’r rhyfel)

22.57

Y PRIF WEINIDOG: (SAIB) Mae hi’n reit flêr tydi.
EI BLAID: Ydi.
Y PRIF WEINIDOG: A’n bai ni yd i hyn ‘de?
EI BLAID: Ia/Na/Ella/Chydig bach.
(SAIB)
Y PRIF WEINIDOG: Be wnawn ni?
(SAIB)
EI BLAID: M’bo…?
(SAIB)
Y PRIF WEINIDOG: Daflwn ni fom neu ddau. Ella daclusith hynny rhywfaint ar yr hen le?
EI BLAID: Ia.

(AILADRODDWCH POB 10 MLYNEDD HYD EBARGOFIANT)

#89 Gorsaf heddlu Treganna

22.52

gorsafheddlu1gorsafheddlu2

Murddun modern oedd yno,
chwd egwan o’r chwedegau
oedd eisoes wedi dyddio
â’i deils diemwntiau.
Fyddai neb yn gweld ei golli o.

Ond yn hy ynghanol ein ha’
fe’i rhwygwyd: briwsionwyd wrth ein drws
ddarn o siwrwd o Syria,
tarfwyd ar hedd ein prynhawniau tlws
â rwbel Arabia,

A ninnau’n gweld, yng nghyfrodeddiad
y cebls dur, gwneuthuriad mewnol
a hanner rhanedig yr adeilad,
yr anghyfannedd reit yn ei ganol,
dim ond am eiliad.

#88 Y Siop Gongol

22.49

Ein siop, nid yw’n le siapus – ond co-op
sydd ‘di cau’n anffodus.
F’angen sy’n argyfyngus,
af o raid i’r lle ar frys.

You bet na chei di letus – i swper
o’r siop, na dim iachus,
y ffidan yn anffodus
oedd bargain bin tun o bys.

😦

# 87 Fflur

Dwi’n cofio dy wen
rhyw ben bob dydd.
Yn meddwl amdanat
a’th draed yn rhydd.

Mae nghalon i’n llenwi –
dy ddychmygu yn llon
yn gorwedd ar draeth,
yn llithro dan don

yn gwneud i bobl
ben arall y byd
weld y gora’ mewn bywyd
a gwenu o hyd.

#86 Gaiman, Patagonia

22.41

Agor pellterau newydd mae teithio bob tro,
nid yn gymaint newid bydolwg
ag ailgreu byd.

Weithiau rydw i’n fy nghysuro fy hun,
pe bawn i’n canfod ’mod i’n ddiffrwyth,
mai teithio fyddai’r antidot:
rhedeg ar ôl fy hun o orsaf i orsaf,
fersiynau eraill ohonof
yn gadael ar drên cynta’r bore
wrth imi lanio ar long, a’r nos i’m canlyn.

Ond yma, y gwacter,
y byd i gyd yn groth,
ac eto, yn llwch y lle, mi wêl rhywun
yn gliriach nag yn unman arall
nad oes ond hyn a hyn ohonom,

a bod trio bob tro mor ddiffrwyth
â thrio dyfrio dyffryn cyfan
o geg ffos leia’r byd.

# 85 I Lora a Garry

Hana
02/10/2014 YN 6:23 PM
A byddai modd i chi ysgrifennu bennill i fy chwaer Lora a’i phartner Garry sy’ wedi cael scan cyntaf 12 wythnos babi heddiw- mae’r babi fod cyrraedd y byd ym mis Ebrill 2015!

Mae’r Hydref wedi cyrraedd,
mae’n dechrau nosi’n gynt,
y dail yn crino ar y coed
a gafael mae y gwynt.

Ond ‘leni mae’n wahanol.
Ni theimla pawb ei frath,
mae un neu ddau sy’n gwybod
na fydd pethau fyth run fath.

Daw babi bach y gwanwyn
â gwên i aelwyd glyd
gariadus Lora a Garry
yn rhodd sydd werth y byd.

#84 Elin Awel

22.25

I Llywelyn, fy ewythr, sydd ai’i unig wyres yn byw yn Awstralia. (Gyda llaw, mae’r math yma Driog Ceiriogaidd yn siwr o ddod yn ol i ffasiwn ryw ben – dw i jyst yn arwain y gad – neu ella mod i heb gael digon o gwsg. Mwynhewch!)

Elin Awel, Elin Awel
dros y môr ym mhen draw’r byd,
cysga’n dawel, Elin Awel
paid a rhishio yn dy grud.

Elin Awel, Elin Awel
mae dy daid yn mynd yn hŷn
wrth hiraethu am dy gwmni
a chyfri’r dyddiau fesul un.

Elin Awel, Elin Awel,
rwyt ti’n tyfu fesul awr
ac rwy’n ofni pan ddoi adra
byddi di yn hogan fawr.

Elin Awel, Elin Awel,
ond dioddef hyn fydd raid
am ni all henaint suro’r eilad
pan ddoi adra at dy daid.

#81 Taith Ddigidol Lleol i Mi

Mae Lleol.cymru
yn cychwyn am dro
efo fan a threlar
i bob cwr o’r fro.

Nawr dyma eich cyfle
i rannu pob son
sydd ganddoch yn lleol
o Fynwy i Fôn.

Hanes, enwogion,
trefi Cymru i gyd
dewch i ni gasglu
y lleol ynghyd.

Taith ddigidol ydi
ar wib ar y we
fydd y criw yn teithio
o’r gogledd i’r de.

Lluniau, cyfarchion,
hysbys neu helo,
cofiwch eu rhannu
pan fo’r bois yn y fro.

#79 Petrichor

22.02

(sef, arogl glaw ar ôl cyfnod sych. Fe gafwyd storm fawr wrth i ganlyniadau refferendwm yr Alban gael eu cyhoeddi)

Bu’n haf maith, llaith a llethol – a thrymaidd
hyd orthrymedd ysol –
galwen ni am y glaw’n ôl!

Tan hanner nos, arhosom: y gobaith
yna gwybod. Arnom
y glaw’n drwch, a’r galon drom.

Am ei hollt, beth yw mellten – heb dwrw
byw y daran; wybren
yn siarad pell fel seren?

Dros dir y deuai’r storom – dod o’r môr
nes gweld marw ynom
y byw fu’n gryfach na bom,

nes diwallu, â’i phistyllio – y don,
y dihuniad cryno,
ddihuniad nad oedd yno,

wedi’i hastio’n ddidostur, ei loer
wedi clirio’r awyr,
a dwrn yr hydref fel dur.

* * *

Ond roedd tarmac y cracio – wedi dal
hud y dafn, ac ynddo
her y glaw, a’i arogl o

a’r danadl yn anadlu – drachefn
a drwy chwa’r holl dasgu
gan orfod ei gynhyrfu,

y pridd wedi pereiddio – i’n galw
o’n gwely, ei herio
ni i’w ffroeni, a’i ffrwyno.

# 78 I’r Parot

I ffrind Rhodri Lewis fydd yn mynd i barti gwisg ffansi fel parot dros y penwythnos. Cofia wisgo fe!

Os dowch o hyd i’r parot hwn
a’i ben bach yn ei blu
ei gân braidd yn gwynfanllyd
a’n fflatach nag y bu.

Ei grafangau braidd yn simsan,
ei big o braidd yn gam;
dychwelwch e yn ddiymdroi
i’w gawell at ei fam.

#77 Bwyta’n hwyr y nos

Pryd ddechreuodd hyn?
Pwy benderfynodd yn sydyn reit
nad hanner awr wedi pump, neu chwech,
oedd yr awr wâr, yr ennyd sifil,
i ddod ynghyd a thorri bara’n dydd
dros friwsion bwrdd ein sgwrs?

Pwy wthiodd ein defod nosweithiol
yn ei hôl i’r nos hwyr?
Ai ildio graddol, yn hytrach,
i rwyd cwmpasog ein horiau gwaith,
balŵn llawn bloneg teithio, gweithio (ac weithiau, gym)
nes diflannodd ein defod ni
i dywyllwch llwyrach wrth i’r dyddiau fyrhau?

Neu ella’n bod ni wedi’i gweld-hi’n iawn,
yn dal yn ôl fel hyn fel dal ein gwynt
er mwyn i’r rhyddhad ein taro ar ei ben
mor galed â gwydr y botel win,
a chlenc y gwydrau’n caniatáu, o’r diwedd,
i gloncian ein dyddiau blethu ynghyd.

Wedi’n celu o’r byd,
yn oedi dros gynhesrwydd stof
a garlleg chwerwfelys
cyn cael hanner hepian ynghyd
fel dau Batagoniad, i mewn o’r diwedd o’r paith,
yn hanner dymuno, o ohirio’n defod
a’i hildio i’r noson laith
na ddaw’r bore ar ormod o garlam chwaith.

#76 Y Deiet

Dyma ti Huw! Os neith i ddim helpu efo’r deiet gobeithio neith i neud ti chwerthin, sy’n llosgi caloriau siwr o fod!

Dwisio bod yn slim a secsi
dwisio bod yn beth bach handi
ond os felly rhaid mi hefyd
fynd ar ddeiet, oh, am gachlyd.

Dwisio bod yn slim a secsi
felly dail a oatcake ffansi
dwi am gael i frecwast heddiw
ew mi fyddai’n chwip o fenyw.

Dwisio bod yn beth bach handi
felly amser cinio – sarnie
heb ddim mayonnaise reit siŵr
ag i’w yfed, sip o ddŵr.

Dwisio bod yn ddynes ffocsi
so amser te dwi mond yn fod i
gael un digestive, efo menyn
a bach o syrup arni wedyn.

Dwisio tin a bwbs fel J-Lo
so dwi’n mynd i zumba heno,
a wedyn ella fel trît bach bach
ai nôl McFlurry a smwddi iach.

#75 Tŷ Newydd

IMG_0455

Mae ’na gath ddiarth yn yr ardd
a dwi’n gath ddiarth hefyd.

Mae’r corneli yn newydd.
Mae’r nos yn wahanol yn fa’ma.

Mater o ffendio lle i’r llanast,
llacio gafael ar hen arferion

meddwl ddwywaith am
ffenest a chlo a chofio

pa dro i’w gymryd wrth ddod adra.
Mae ’na gath ddiarth yn yr ardd

a dwi’n gath ddiarth hefyd,
fel hen elynion, ‘da ni’n barod am sgrap.

Ond yn y diwedd, dwi’n codi uwchlaw ei herio
a’n cynnig soser o lefrith gwyn.

Wedi’r cwbl, hi oedd yma gynta.

#73 Ystafell newid

Stori wir yw hon ddigwyddodd sawl blwyddyn yn ôl ond am ryw reswm, mae’r atgof wedi aros gyda fi.

Roedd ei chnawd yn binc wrth gamu o’r gawod
a’i gwallt lliw clai’n ddiferol
wrth straffaglu gyda’i phunt at ei locer.

Tynnodd ei thywel
mor ddiseremoni â phe bai’n tynnu ei chot
a sychu ei gwallt,
ei breichiau,
a’i choesau
gan aros nes mod i’n canolbwyntio ar wisgo fy nheits
cyn sychu rhwng ei choesau.

Ni thorrom yr un gair
er mai dim ond ni ein dwy oedd yno.
Roedd hi’n gynnar.

Cribais fy ngwallt.
Clywais hi’n cau sip ei chopis.
Gwisgais fy masgara.
Caeodd hi fotymau ei chrys.
Llithrais fy nhraed i fy sodlau.
Rhwygodd hi felcro’i siaced.

Edrychais arni’n iawn
wrth iddi glymu lasys ei sgidie trymion.
Plismones oedd hi nawr.

Estynnais fy mag llaw
a mynd.

#72 Trwy Dwll y Clo

 

 phleser, dyma gerdd yn annog plant i ddarllen…

Hei, chi, dewch am dro,
dilynnwch fi trwy dwll y clo.

Na, ddim chi y bobl fawr,
y bobl fach sy’n cael antur nawr.

Dewch efo fi i arall fyd
lle gall hi fod yn haf o hyd.

Neu ble mae’r môr ar ben i lawr,
dewch i weld, y blaidd, y cawr,

y mwnci piws, y diafol cas.
Trwy dwll y clo mae’r byd ar ras.

Yn llawn o ffrindiau newydd a hen
rhai sy’n ddoniol, rhai eraill clên

a rhai dieflig, aflan a chas
Ond peidiwch â phoeni, mae wastad ffordd mas

Oherwydd mai’r ffordd i mewn trwy dwll y clo
i’r byd bendigedig sy’n gwbl o’i go

yw trwy droi tudalen y clawr
a dechrau darllen yn araf, nawr

yn gynt a chynt, dwi’n gaddo, wir
bydd y stori’n mynd a chi trwy’r tir

i’r awyr, mewn roced, i fyny i’r nen,
a cewch fyw yn yr antur, tan ddaw’r stori i ben.

#71 Hanner marathon – cyngor

Sgidiau sy gadarn,
loyw, hardd, fel harn,
lastig, plastar
(oes bocs yn sbâr?)
Bwyta, botel,
a oes jiws? Gel?
Dim dadl – anadla,
mae’n her: mwynha!
Oriau… aros…
dŵr…
yna DOS!
Rhed drwy y drain,
rhed ar adain!

#70 Dysgu Cymraeg

18.39

Glesni: “Helo bawb da iawn chi. Cerddi gwych hyd yn hyn! A gaf i gerdd i ysbrydoli/cerdd am diwtor Cymraeg i Oedolion newydd os gwelwch yn dda? Diolch.”

Anest Roberts: “A oes modd cael cerdd yn son am bennod newydd yn addysg cyfrwng Cymraeg ardal Llandysul? Mae’r gwaith adeiladu wedi dechrau wythnos diwethaf gyda’r bwriad o agor yn 2016. Diolch.”

I bawb uchod, ac unrhyw un dwi wedi anghofio, sydd wedi holi am gerdd sy’n ymwneud â dysgu Cymraeg/annog pobl i fod yn diwtoriaid Cymraeg/dathlu adfywiad y Gymraeg…mae hon i chi (ac i Tom).

Dysgu Cymraeg

Mae’r Gymraeg fel taffi triog lond dy geg
llafariaid hyll yn llenwi pob un ceudod
a geirfa ddiarth am dy dafod yn rheg
yn ffendio ffordd at synau hen i’w datod.
Mae hon yn yddfol, yn crafu gwaelod llwnc,
mae’n boeth, mae’n beryg, mi all hon dy grogi.
Rhaid ei hudo’n bwyllog fesul sill a rhwnc
ac wir, yn araf bach mi ddoi i’w hogi.
Ond, ar ôl i ti gerdded hyd ei llwybrau
a dod yn feistr corn ar iaith y nef
cei weld, bydd gen ti lawer mwy na geiriau,
mwy na sgyrsiau, mwy na phobl a thref.
Tom, llafur cariad yw dysgu iaith o hyd,
ond des di a iaith o’r newydd i fy myd.

#69 Bertsos Gwlad y Basg (Cantorion Penillion)

18.40

Mae’r holl waith sgwennu dan bwysa’ ‘ma wedi neud i mi feddwl am Y Bertsos, sef beirdd gwerin yng ngwlad y Basg sydd yn creu campau ahygoel drwy gyfansoddi cerddi hirion caeth o fewn eiliadau i dderbyn eu testunau. Mae nhw fel beirdd yr ymryson ar steroids! Fel pob myneigiant o hunaniaith fasgeg yn y cyfnod cawsant eu erlid gan Franco. Mae nhw’n arwyr mawr i mi!

Barddoni gyda gwn wrth dy ben:
Pam dewis byw fel hynny?
“Pam lai?” medda nhw.
“Pwy sydd angen ‘Awen’
pan fedri di redeg ras ag amser
a dawnsio ar ddibyn celfyddyd?

Mae cysgod Franco
fel awyrennau rhyfel dros bob cerdd.

Allwn i ddim byw fel hynny.
Ac mae hynny yn dweud mwy amdanom ni na nhw.

#68 3, 2, 1…

Screen Shot 2014-10-02 at 18.26.27Screen Shot 2014-10-02 at 18.27.14

3, 2, 1…

Elisa, does dy dlysach –
yn deiroed, neb dy harddach.
Fe fydd tŷ chi, a thithau’n dair
fel ffair â’r holl glindarddach!

Ac Anest, beth am ganu
A chacen braf i’w rhannu?
Mae’n ddiwrnod mawr, a thithau’n ddwy –
cei fwy o jeli ’fory!

Pob cogydd bach mewn cegin,
dyn tân, a gwrach, a dewin,
mor braf y byddwch chi bob un
yn tyfu’n fawr, o’ch meithrin.

#66 Gwesteion…

17.00

Gyda’ch cennad…

Newydd fod yn dysgu dosbarth sgrifennu creadigol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Dyma ddetholiad o gynnyrch ein heginfeirdd! Tair cerdd am bris un – bargen.

1. Dechrau taith yw diwedd taith.
Gadael cysur, cynefin, atgofion,
croesawu bwrlwm bywyd newydd;
o heddwch gwledig i brysurdeb dinesig.

2. Pedwar bys, bawd a chledr
yn ceibio, tynnu, chwalu, torri.
Drwy nerth bôn braich y tyf y tir.

Pedwar bys, bawd a chledr,
botymau dan frys bys
yn ddiwyd yn gweithio mewn swyddfa.

Pedwar bys, bawd a chledr:
cledrau’n cyffwrdd, cariad gwresog
yn uno dau berson.

Dyrnau dyrys: bwrw brawd,
y dwylo’n datod.

Pedwar bys, bawd a chledr,
map o wythiennau
yn gudd dan groen
yn ddim ond cig a gwaed.

3. Un garreg ymysg y miloedd
Yn dilyn llif y dyfnderoedd –
Pwy a ŵyr ei hanes hi,
A’r streipen wen sydd arni?

O ble daeth y garreg gron?
Lloegr, Ffrainc neu Iwerddon?
Y garreg fechan, esmwyth, drom
Yn mynnu’i lle ar y ddaear hon.

#65 Er cof am David Robinson

16.58

Yn 1976 roedd un o ffrindiau gorau fy Nhad, David Robinson (a oedd yn ddringwr profiadol) newydd goncro wyneb gogleddol y Mattherhorn, un o ddringfeydd anoddaf yr Alpau. Ond ar y ffordd i lawr o’r ddringfa fe lithrodd ac bu farw ar y mynydd. Fe’i claddwyd ym mhentref Zermatt yn y Swistir. Fy Nhad, sydd yn Saer Maen, a luniodd ei garreg fedd. Eleni bron i ddeugain mlynedd yn ddiweddarach aeth fy Nhad i weld bedd ei ffrind a’r garreg a luniwyd ganddo am y tro cyntaf.

Herio gwyr wna’i gregiau o – un antur
i yntau oedd dringo.
Enaid dewr, ond yna, do,
un garreg ddaeth i’w gurro.

Un garreg wnaed o gariad – a luniwyd
yn lân fel galarnad.
Un rhodd a naddodd fy Nhad
i uno ei gwahaniad.

#63 Y Ddyled gan Llwyd Owen

Y Ddyled gan Llwyd Owen

Mae pob un nofel gwerth ei halen
sydd yn bleser pur i’w darllen
angen syniad, angen stori
a phrif gymeriad i’w hangori.
Llwyd yw hwnnw a fe yw’r awdur
weden i bydd hon yn glasur!
Gem o nofel rhwng dau glawr
yn eich siopau llyfrau NAWR!

#61 Priodas

15.56

Diolch i bawb am eich ceisiadau gwych! Mae nifer o bobol wedi bod yn gofyn am gerddi addas i’w darllen mewn priodasau, gan gynnwys y cais isod gan Elen Jones.

A fyddai modd cael cerdd am briodas a chariad – mae’n syndod cyn lleied sydd! Rhywbeth fyddai’n addas I gael ei ddarllen yn y capel o bosib?

Gobeithio y bydd yr hir a thoddaid yma yn plesio:

Un naid oesol yw priodasau;
yn hen ddihareb, yn wen ddi-eiriau;
yn chwalu synnwyr, yn chwil lys-enwau;
yn oriau unig, yn law tarannau;
yn aros tristwch, yn drwsio trawstiau;
yn drai brawychus, yn dorri breichiau;
yn ddeall dall ddaw rhwng dau – ryw eiliad
mai cariad yw’r uniad rhwng canghennau.

#60 Haiku Cwsg

15.14

Dw i heb gysgu ers 31 awr ac mae’r llygaid yn drwm. Mae’r gerdd hon i ti Catrin Heledd am dy gais ar Twitter ac i ti Osian am ofyn am Haiku’s.

Haiku Cwsg

Ca dy liniadur
gorffwys dy ben ar y ddesg
a cher i gysgu.

Bydd popeth yn well
ar ôl i ti ddihuno
ond am steil dy wallt.

Bydd greadigol
gwna wely o gadeiriau
yn nyth bach dros dro.

Swatia Catrin fach,
mae Huwcyn Cwsg yn galw,
ca dy lygaid trwm.

#58 Ar ôl y streic

15.05

 “Gerwyn am 02/10/2014 12:25 :

Beth am rywbeth i gofio am Streic y Glowyr 1984 30 mlynedd yn ol? Mae S4C (Adam Price), y ddrama Garw a’r ffilm Pride wedi ymateb i’r thema eleni, ond beth amdani, feirdd?”

Dyma ymgais ar ôl mwynhau Garw neithiwr…

Ar ôl y streic

Sylla i’w baned a sychu ei drwyn.
Pan sonïwyd gynta am y streic
feddyliodd neb.
Feddyliodd rhywun?

Sylla ar y radio a rhwbio’i ên.
Dyn ifanc, dyn a gododd ddwrn,
dwrn i frwydro.
A nawr? Llaw mor hen.


Sylla ar ei ferch a pheidiodd a dweud.
Fe ddaeth y fechan trwy gwmwl
llwch gaeaf oer.
Be allen i wneud?


Sylla ar y byd a sibrwd i’w hun.
Ar ôl y streic roedd tywyllwch
düach na’r glo,
dim lliw yn y llun.