05.51
S’dim golwg o seren heno
ac mae’r lleuad yn cwato’i wep
tu ôl i gorn simdde un o’r tai.
Mae’u llygaid nhw i gyd ar gau
ond mae’r lampau stryd yn ddigon
i gadw’r tywyllwch bant.
Y tawelwch sy’n fy nhynnu i nôl i’r tŷ
lle mae pob golau ynghyn,
y tegell yn berwi
a sŵn ein traed ar y staer
drwy’r oriau mân.
Heno,
rhwng pedwar a phump,
ar shifft y meirw,
ni yw’r rhai sy’n cadw sŵn.