#43 Gig Yr Ods yn Clwb

11.56

Fwy na bodlon sgwennu cerdd i’r Ods, mae nhw wedi fy niddanu lawer tro. Dwi’n ffan mawr, fel gwelwch chi ella…

Ar ôl bod allan nos Wener
ti’n deffro,
yn teimlo yr artaith a’r wefr,
dy ben yn curo
wrth ti gofio ffraeo,
mor barod dy dafod
yn dy ddiod.

Sgwrsio, treulio amser
ond mae ‘na niwl a dy lygaid mawr
sy’ nawr fel gwibed
a gola’ dydd sy’n pylu’r gwir.
Ti’n teimlo euogrwydd
mae’r dydd yn hir.

Ond y cyngor gora sgen i
i’w rannu
ydi paid a aros, paid â phoeni
am be ddaw yfory,
aros fel hyn am byth
a dos allan eto, ag eto,
hei wsti be, mae na gig Yr Ods
yn Clwb Ifor heno…