# 8 Dim Cerdd

02.30

O diar, mae’r gerdd gyntaf wedi cymryd dwy awr a hanner i fi. Nid yw hyn yn argoeli’n dda!

Am hanner nos, dechreuais ar fy awdl uchelgeisiol
a fyddai’n wir i unrhyw fardd yn glamp o her dechnegol
ond er i’m chwysu am ddwy awr, fe sigai tua’r canol.

Cynlluniais gerdd go gymhleth, ddofn a chanddi lu o haenau
a fyddai’n creu cryn argraff ac yn deffro’r holl synhwyrau
ond och a gwae, siom fawr a fu pan gwympodd hi yn ddarnau.

Rhois gynnig ar wneud cerddi llai; tasg hawdd i’m dwylo medrus!
Gwnes ddeg llond llaw o awen a’u haddurno’n garcus, garcus
ond nid oedd rheiny’n gwneud y tro; rhy flêr ac anghymharus.

Yn fyrbwyll iawn, fel Iain gynt, fe’u teflais i’r bin sbwriel
cyn gwelai unrhyw un o’r lleill fy llu methiannau dirgel
a dyna pam, gyfeillion hoff, does gen i’m cerdd i’w harddel.